
Beicio/Beicio Mynydd

Mae Sir Benfro’n cynnig dewis helaeth o lwybrau beicio sy’n addas i bob un. Mwy...
- Beicio/Beicio Mynydd Dolenni

- Beicio/Beicio Mynydd Gair o Gyngor

-
https://www.sir-benfro.gov.uk/beicio-sir-benfroAm ragor o lwybrau beicio, ewch i dudalennau Beicio Sir Benfro ar wefan Cyngor Sir Penfro.
-
Cofiwch gynllunio’ch llwybr yn ofalus. Cofiwch eich bod chi’n gallu beicio ar lwybrau ceffylau (a ddangosir gan arwydd ceffyl yn cerdded a/neu saeth las), ond nid ar lwybrau cerdded (a ddangosir gan arwydd dyn yn cerdded a/neu saeth felen). Mae hyn yn golygu nad oes modd seiclo ar fwyafrif Llwybr yr Arfordir (a ddangosir gan arwydd y fesen).
-
Cofiwch bethau sylfaenol hefyd, fel dillad addas, helmed, clo, offer atgyweirio twll yn y teiar ac offer eraill, a dilynwch y Cod Cefn Gwlad. Da chi, dilynwch y dolenni isod! Mae’r ardaloedd a ddangosir ar y map yn gipolwg ar rai o’r trysorau beicio sydd gennym ni yn y Sir.
-
Mae yna gymaint mwy o lonydd, llwybrau ceffylau a llwybrau eraill i’w darganfod, felly ewch allan, ewch amdani a mwynhewch fywyd ar ddwy olwyn!
Beicio/Beicio Mynydd Lleoliadau